Open Letter from Anthony Buchanan

Llanelli RFC — The Town Team

Llanelli Rugby Football Club is a name that is known across the globe, a club that has savoured so many historic days and produced so many great players.

This month’s play-off victory over Pontypool was one of the most significant results in the history of the club. It secured the club’s status in the Principality Premiership for next season and everyone concerned should be congratulated for their efforts in such a high-pressure situation.

The result was a huge relief to everyone at the club because the game and what was at stake highlighted how close we came to the unthinkable happening, Llanelli RFC not being here. The stark reality is, we were potentially 80 minutes away from that outcome.

The Welsh Rugby Union have reduced funding to Premiership clubs for next season, downgrading the competition to now serve as the pinnacle of the community game in Wales.

As a club, we need to ensure we are not in that same precarious position again and that means focusing our efforts on building strong financial foundations for our long-term future.

Llanelli RFC has long provided the pathway for players to go on and flourish on the international stage. In recent seasons, late developers like Liam Williams, Aaron Shingler, Owen Williams and Ben Morgan have become accomplished Test match rugby players. We are determined to continue in that vein, but we now find ourselves with a financial challenge.

We don’t want to become a club reliant on a sole benefactor and that is why we are appealing to you, the supporters, former players and the business community of the town.

The first of a number of initiatives will be establishing two categories of support which would begin the process of generating much-needed income for the club. The first is to become a guardian of Llanelli RFC, which would involve a £10 monthly direct debit contribution over 12 months. The second tier is a vice-president of Llanelli RFC with a contribution of £20 a month. Both entitle you to access to all home Llanelli RFC games at Parc y Scarlets.

This financial support, properly managed, will ensure we can build a squad that can not only be competitive at Premiership level, but will also maintain our ethos of developing players for further honours.

Our history speaks for itself; we cannot allow the name of Llanelli RFC to disappear.

As a town we need to come together to safeguard this great club’s future.

Anthony Buchanan
Llanelli RFC

If you wish to support either of these initiatives email tracey@lrfc.wales

 

Clwb Rygbi Llanelli – Tîm y Dref

 

Clwb Rygbi Llanelli – enw ag adnabyddir ledled y byd, a chlwb sydd wedi cynhyrchu toreth o chwaraewyr gwych yn ei hanes clodfawr.

Roedd y fuddugoliaeth ddiweddar yn erbyn Pontypŵl yn y gêm ail gyfle yn un o’r canlyniadau pwysicaf yn hanes y clwb. Sicrahwyd ein statws yn Uwch-Gynghrair Principality y tymor nesaf a llongyfarchiadau i bawb yn y clwb am eu hymdrechion o dan bwysau aruthrol. Roedd y canlyniad yn rhyddhad enfawr i bawb yn y clwb, ond y gwir yw, daethom yn agos iawn at ddiwedd Clwb Rygbi Llanelli.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cwtogi cyllid y clybiau Uwch-Gynghrair ar gyfer tymor nesaf, gan israddio’r gystadleuaeth i lefel brig y gêm gymunedol yng Nghymru.

Fel clwb, mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn cael ein hunain yn yr un sefyllfa fregus eto, a golygir hyn adeiladu seiliau ariannol cadarn ar gyfer ein dyfodol tymor hir.

Mae gan Glwb Rygbi Llanelli draddodiad hir o ddarparu llwybr i chwaraewyr gael ffynnu ar y llwyfan rhyngwladol ; chwaraewyr dawnus fel Liam Williams, Aaron Shingler, Owen Williams a Ben Morgan. Rydym yn benderfynol i barhau yn yr un modd, ond wynebwn sialens ariannol.

Nid ydym am fod yn glwb sy’n dibynnu ar noddwr unigol a felly dyna pham apeliwn atoch chi, ein cefnogwyr, cyn-chwaraewyr a’r gymuned fusnes leol.

Er mwyn dechrau cynhyrchu’r incwm sydd ei angen ar y clwb, y fenter gyntaf fydd i sefydlu dau gategori o gefnogaeth. Yn gyntaf, i ddod yn warchodwr Clwb Rygbi Llanelli am gyfraniad debyd uniongyrchol o £10 y mis am 12 mis. Yr ail opsiwn fydd i ddod yn is-lywydd Clwb Rygbi Llanelli gyda chyfraniad o £20 y mis. Bydd y ddau opsiwn yn cynnwys mynediad i holl gemau gartref Llanelli ym Mharc-y-Scarlets.

Bydd y gefnogaeth ariannol hon, gyda’r rheolaeth iawn, yn sicrhau y gallwn adeiladu carfan a all fod yn gystadleuol yn yr Uwch-Gynghrair, yn ogystal â chynnal ein hethos o ddatblygu chwaraewyr am anrhydeddau pellach.

Mae ein hanes yn eiconig. Ni allwn adael enw Clwb Rygbi Llanelli ddiflannu. Fel tref, mae’n rhaid i ni gydweithio i sicrhau dyfodol ein clwb arbennig.

Anthony Buchanan

Clwb Rygbi Llanelli

Os dymunwch gefnogi un o’r mentrau uchod, ebostiwch tracey@lrfc.wales